Dwi'n deall yn iawn nad yw Pegwn y Gogledd yr un peth a'r pegwn magnetig, ond yr un gair ydan nhw yn Saesneg a does neb yn cael anhawster efo hynny. Ac mae geiriau fel pegyniad, pegynedd a pegyndyniad yng Ngeiriadur y Brifysgol ac yn bodoli ers 1858. Od iawn. Geraint ----- Original Message ----- From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, February 27, 2008 2:00 PM Subject: Re: magnetic pole On Wed, Feb 27, 2008 at 12:35:24PM -0000, GERAINT LOVGREEN wrote: > A all rhywun fy ngoleuo pam y mae'r Termiadur ysgol yn rhoi 'pôl' yn > hytrach na 'phegwn' am 'magnetic pole'? > > Mae'n arwain at sefyllfa hurt lle ceir NORTH CELESTIAL POLE = PEGWN > WYBRENNOL Y GOGLEDD a NORTH MAGNETIC POLE = POL MAGNETIG Y GOGLEDD. Wel am un peth, mae pegwn yn air daearyddol (a dyw pegwn y gogledd ddim yn yr un lle a'r pol magnetig). Yn y maes Ffiseg, mae gan fagned 'pol' a mae angen son am 'deupol' a pethau felly. Mae 'pol' hefyd yn rhan o eirfa Cemeg, gyda cysyniad tebyg.