Jones,Sylvia Prys wrote:
> Matthew Clubb wrote:
>> Os caf daflu hatling bach mewn - un peth i'w gofio efallai yw hyn, sef o
>> safbwynt iaith, mae ein gallu goddefol yn ehangach na'n gallu
>> gweithredol.
>> ...
>
> Rydw i'n cytuno'n llwyr â chi Matthew. Credaf fod y gwahaniaeth rhwng
> iaith oddefol ac iaith weithredol yn hollbwysig ac yn rhywbeth sy'n cael
> ei anghofio e.e. yng nghanllawiau Cymraeg Clir. (Rydw i wedi trafod hyn
> lawer tro gyda Dr Cen Williams).
> Un peth bydda i'n ei wneud bod amser ac eithrio mewn testun hynod o
> anffurfiol yw defnyddio hwn a hon fel ansoddair dangosol, yn hytrach nag
> 'yma'. Wrth wneud hynny mae rhywun yn cadarnhau cenedl enw hyd yn oed os
> nad yw'r enw ei hun yn treiglo ar ol y fannod. Gan fod ymwybyddiaeth
> llawer o bobl ifanc o genedl enwau yn wan iawn credaf fod hyn yn gymorth.
Mae defnyddio ansoddair dangosol yn gliriach beth bynnag na
defnyddio rhagenw dangosol, nid so+n am y cyfle i arddangos cenedl
yr enw. Dwi'n osgoi'r rhagenw dangosol hyd yn oed yn Saesneg
(ac eithrio mewn testunau anffurfiol iawn).
--Mark
|