Jones,Sylvia Prys wrote: > Matthew Clubb wrote: >> Os caf daflu hatling bach mewn - un peth i'w gofio efallai yw hyn, sef o >> safbwynt iaith, mae ein gallu goddefol yn ehangach na'n gallu >> gweithredol. >> ... > > Rydw i'n cytuno'n llwyr â chi Matthew. Credaf fod y gwahaniaeth rhwng > iaith oddefol ac iaith weithredol yn hollbwysig ac yn rhywbeth sy'n cael > ei anghofio e.e. yng nghanllawiau Cymraeg Clir. (Rydw i wedi trafod hyn > lawer tro gyda Dr Cen Williams). > Un peth bydda i'n ei wneud bod amser ac eithrio mewn testun hynod o > anffurfiol yw defnyddio hwn a hon fel ansoddair dangosol, yn hytrach nag > 'yma'. Wrth wneud hynny mae rhywun yn cadarnhau cenedl enw hyd yn oed os > nad yw'r enw ei hun yn treiglo ar ol y fannod. Gan fod ymwybyddiaeth > llawer o bobl ifanc o genedl enwau yn wan iawn credaf fod hyn yn gymorth. Mae defnyddio ansoddair dangosol yn gliriach beth bynnag na defnyddio rhagenw dangosol, nid so+n am y cyfle i arddangos cenedl yr enw. Dwi'n osgoi'r rhagenw dangosol hyd yn oed yn Saesneg (ac eithrio mewn testunau anffurfiol iawn). --Mark