Annwyl Ann
Dw i wedi holi un o'r swyddogion sy'n delio efo etholiadau yma yng Ngwynedd.
Y tro diwethaf roeddent yn defnyddio 'eog' a 'lelog' am 'salmon' a 'lilac'
OND y penderfyniad y tro yma ydi defnyddio'r termau 'papur gwyn' a 'phapur
lliw' - os dw i wedi deall yn iawn mae yna bapur gwyn a phapur (un) lliw yn
cael rhoi/eu hanfon i bobl bleidleisio. Dwn i ddim os ydi o help i chi!
Hwyl
Mererid
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Wiliam
Sent: 12 April 2007 17:03
To: [log in to unmask]
Subject: Lliwiau
Mae yna liwiau od iawn ar gyfer papurau pleidleisio etholiadau mis
Mai. 'Does arnai ddim eisiau rhoi cyfeithiadau sy'n wahanol i bawb arall.
Os cofiaf yn iawn roedd yna dipyn o anghytuneb y tro diwethaf yn enwedig
ynglŷn â "salmon" a "lilac". Ond beth am "buff" a "maize"? Hwyrach y
gallai rhywun sy'n cyfieithu i awdurdod lleol fy helpu gyda'r canlynol:
BUFF
SALMON
LILAC
MAIZE
Diolch ymlaen llaw
Ann
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named recipient only. The content may contain privileged information. If it has reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is absolutely necessary.
|