Mae un enghraifft yn y Beibl Cymraeg newydd ble mae'n cael ei
ddefnyddio i olygu 'bwyta'
"Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch, ond yn y
seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd
ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr
hyn a adewir yn weddill...'
Exodus, 23 10-11
Mae'r hen gyfieithiad yn defnyddio 'bwytäed'!
Nid yw GPC yn rhoi 'bwydo ar' ac felly mae'n bosibl bod yr ystyr wedi
ehangu ers cyhoeddi fersiwn cynharaf y geiriadur. Dim ond yr hen
fersiwn sydd gennyf i - tybed beth sydd yn y fersiwn newydd?
Mae digon o enghreifftiau o 'fwyd ar' ar Google, ond mae'n rhaid
chwilio trwyddynt i osgoi'r holl enghreifftiau o 'fwydo ar y fron'.
Dw i wedi gofyn i'm gwraig (Rhian) ac mae hi'n meddwl bod gwahaniaeth
ystyr rhwng 'bwyta' a 'bwydo ar'. Ei hesboniad hi yw bod 'bwydo ar' yn
fwy 'parasitig' hynny yw mae'r pren yn rhoi maeth dros gyfnod o amser,
er nid o wirfodd y goeden rwy'n siŵr, ble mae rhyw awgrym bod 'bwyta'
yn rhywbeth pendant - rydych yn bwyta rhywbeth a dyna fe, mae wedi
mynd. Mae hyn yn anodd ei esbonio ond gallaf i weld y gwahaniaeth
hwnnw hefyd. Efallai ei fod wedi datblygu o dan ddylanwad y
gwahaniaeth yn Saesneg rhwng 'eat' a 'feed'.
Muiris
|