Mae'n debyg fy mod i'n rhy hwyr, fel arfer - dim ond pan dwi gartref
dwi'n medru mynd i mewn i'r cylch trafod ar hyn o bryd, sy'n 'wirion
bost', dwi'n gwbod.
Beth bynnag, 'cynllunio o gwmpas yr unigolyn' dwi'n ddefnyddio yn
Mencap, os ydy hynny o ryw help.
Dymuniadau gorau
Eluned
On 3/27/07, Post <[log in to unmask]> wrote:
>
>
> Mae bron 12,000 o gyfeiriadau at 'person centred plan' yn y DU yn unig ar y
> we, ac mae'r ymadrodd yn codi o hyd mewn dogfennau ym meysydd gofal, hawliau
> anabledd ac ati. Mae gen i ryw gof mai 'cynllunio person-ganolog' yr oedd
> TermCymru yn ei roi o'r blaen am 'person centred planning', ond bellach nid
> yw'n cynnig dim.
> Rhoddir 'sy'n canolbwyntio ar y dysgwr' am 'learner centred' a 'canolbwyntio
> ar y dinesydd' am 'citizen centred', ond 'Graddfa'r Safbwynt
> Plentyn-Ganolog' am 'Child Centredness Scale'.
>
> Beth sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer gan weithwyr yn y maes, tybed?
>
> Diolch.
> Claire
>
> Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o
> dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol
> yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
>
> Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the
> number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road,
> Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.
>
>
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.18/734 - Release Date: 26/03/2007
> 14:31
>
|