On Mon, 26 Mar 2007 15:55:40 +0100, Berwyn Jones
<[log in to unmask]> wrote:
>Dangosir 'stingers' ar raglenni fel 'Police, Camera, Action!' lle bydd yr
heddlu'n defnyddio teclyn sy'n fframwaith o resi o bigau a gaiff ei daenu ar
draws y ffordd i ollwng yr aer o deiars car sydd wedi'i ddwyn neu'n ceisio
dianc ar ôl i'r gyrrwr gyflawni rhyw drosedd. Gan nad yw'r aer yn cael ei
dynnu o'r teiars i gyd ar unwaith, mae'n ffordd ddiogel o arafu a stopio'r
car. Y term mwyaf dealladwy amdano, am wn i, fyddai 'stingiwr' (ll. 'stingwyr').
>
>Berwyn
Mae 'stinger' yn gallu cyfeirio at y gynnau sy'n rhoi sioc trydanol i'r
targed - tybed ydyn nhw yn cario 'defibrillator' rhag ofn bod angen trin y
galon wedyn?
|