Muiris Mag Ualghairg:
> Llwytho'r rhestr y bydd fy nghyfrifiadur i'n ei wneud wrth restru'r
> holl raglenni sydd ar y cyfrifiadur pan fyddaf i'n mynd i 'ychwanegu
> neu dynnu rhaglenni'. Dw i'n cymryd mai 'populate' yw hynny yn Saesneg
> ond heb newid iaith i gael gweld.
Mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng 'loading' a 'populating' yng
nghyfrifiaduraeth. Mi all 'populate' olygu didoli, threfnu a phrosesu
gwybodaeth cyn ei ddangos mewn trefn, patrwm ac arddull arbennig.
Mi fyddai llwytho yn addas fel arfer lle nad oes angen ystyr
di-amwys (e.e. gwersi TG, canllaw neu gyfarwyddiadau technegol)
|