Oes yna derm Cymraeg sy'n cael ei arfer am 'Homemaker'? Dw i'n meddwl mai
term Americanaidd ydyw sy'n cyfateb i 'housewife' yn ein dyddiau
gwleidyddol gywir ni. Gall 'homemaker'wrth gwrs fod yn wrywaidd neu'n
fenywaidd. Gwraig/gŵr tŷ? Mae 'Gofalwr Tŷ' i'w weld ar y we ond
does 'run ohonynt yn taro deuddeg. Unrhyw oleuni??
Diolch
Mererid
|