Rwyf innau wedi clywed am natur ryngwladol yr 'c', ac yn cofio rhywun yn sôn bod problem yn codi pan fydd y symbol 'r' mewn cylch (registered) yn ymddangos gerllaw'r 'c' am copyright. 'Cofrestredig' neu rywbeth tebyg yn dechrau ag 'c' fyddai'r symbol Cymraeg ar gyfer hwnnw, mae'n debyg, felly fe allai defnyddio 'h' ac 'c' yn lle 'c' ac 'r' arwain at gamddealltwriaeth.
Wn i ddim lle gwelais i hyn neu lle clywais i'r rhesymu, ac mae'n ddrwg gen i os ydw i'n taflu dŵr oer ar y brwdfrydedd dros ddefnyddio'r 'h'. Hen gena' i mi am wneud y fath beth ar ddiwrnod mor braf!
Cofion gorau,
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 02 February 2007 12:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Hawlfraint
Gair o rybudd: rwy'n credu i Delyth (Prys) esbonio rywbryd mai symbol ryngwladol yw 'c mewn cylch' erbyn hyn a bod iddi, felly, rym cyfreithiol.
Mae'n debyg, felly, nad yw 'h mewn cylch' yn diogelu dim ar hawlfraint yn llygaid y gyfraith.
Berwyn
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.411 / Virus Database: 268.17.19/663 - Release Date: 01/02/2007
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.411 / Virus Database: 268.17.19/663 - Release Date: 01/02/2007
|