Os oes rhywun yn defnyddio 'Open Office' mae modd cael 'H' mewn cylch
(neu rywbeth sy'n debyg iawn i 'H', beth bynnag) yn 'Insert' >
'Special Character' o fewn ffont 'Sylfaen'.
Eluned
On 2/2/07, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:
> Helo.
>
> Mae modd cael 'h' mewn cylch heb fod gennych "ffontiau Cymraeg" hefyd. Yn
> Word, ewch chi i 'Insert' 'Symbol', a dewis ffont gwahanol, sef "Arial
> Unicode MS". Mae pob symbol o dan yr haul i'w cael gyda'r ffont yma!
> Sgroliwch i lawr am dipyn i'r adran "Enclosed Alphanumerics"; fe ddylech
> weld llythrennau'r wyddor Saesneg yno yn rhes, a chylch am bob un.
>
> Gan fod hwn yn ffont rhyngwladol mi ddylai weithio ar gyfrifiaduron pawb
> arall hefyd. Mae'n bosib nad yw'r ffont wedi ei osod ar eich cyfrifiadur,
> ond mae'n eitha hawdd ei osod os oes coel ar y canllawiau yma:
> http://www.stthomasgoc.org/unicode.html (dwnim pwy oedd St
> Thomas Goc).
>
> Wn i ddim am y gyfraith felly dwi ddim yn gwbod a ydy (h) yn cario'r un
> grym cyfreithiol ag (c), ond y symbol (h) oedden ni'n ddefnyddio lle bues
> i'n cyfieithu, a dwi'n eitha hoff ohono. Dwi'n falch o ddweud nad oes gen i
> bentwr o ddogfennau'r llywodraeth wrth law i checkio, ond mae (h) yn cael ei
> ddefnyddio'n helaeth gan gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg.
>
> Osian
>
>
>
>
>
> > Annwyl Bawb
> >
> > Tra fod 'na drafodaeth am symbol hawlfraint oes rhywun yn gywbod sut i
> osod
> > yr 'h' o fewn y cylch? Gwn fod modd cael symbo 'c' wrth fewnsod symbolau
> yn
> > Word. Byddai modd llunio un wrth ddefnyddio awto siapiau ond rhag ofn bod
> > ffordd hawdd.
> >
> > Llawer o ddiolch am unrhyw help
> >
> > Nia
> >
> >
> >
> >
> >
> >
> > Nia Wyn Edwards
> > Rheolwr Systemau/Systems Manager
> > Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (The Association of Welsh Translators and
> > Interpreters)
> > 01248 371839
> > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> > vocabulary [mailto: [log in to unmask]]
> Ar ran Mary Jones
> > Anfonwyd/Sent: 30 January 2007 16:50
> > At/To: [log in to unmask]
> > Pwnc/Subject: Re: Hawlfraint
> >
> > Rhaid i fi gyfaddef mod i'n defnyddio 'h' ers blynyddoedd - yn hollol
> > ddiniwed. Gobeithio mod i'n iawn, felly!
> > Mary
> >
> >
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > [mailto: [log in to unmask]] On Behalf
> Of Geraint Løvgreen
> > Sent: 30 January 2007 13:57
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: Hawlfraint
> >
> > Ydyn, dwi wedi gweld yr 'h' mewn llyfrau Cymraeg ac ar recordiau/CDs.
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Wiliam" < [log in to unmask] >
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, January 30, 2007 1:27 PM
> > Subject: Re: Hawlfraint
> >
> >
> > Meddwl fy mod wedi darllen yn rhywle nad oes grym cyfreithiol i'h' mewn
> > cylch. Ond mae rhai o'r gweisg yn ei ddefnyddio.
> > Ann
> >
> > --
> > This message has been scanned for viruses and
> > dangerous content by SAQNET SpamAlizer www.saq.co.uk, and is
> > believed to be clean.
> >
>
>
|