Gyfeillion annwyl,
Ydych chi wedi sylwi ar yr holl gofnodion yn yr archifau bob mis sy'n
dechrau ag ATB:?
Pan fydd rhywun yn ateb ymholiad, mae’r system yn anwybyddu’r
rhagddodiad Saesneg Re:, ac yn ffeilio’r ateb yn gywir yn nhrefn y
wyddor, mewn dilyniant cywir ar ôl y sylw blaenorol ar yr un pwnc. Ond, os
yw system yr atebwr yn Gymraeg, a bod ei e-bost yn defnyddio’r rhagddodiad
ATB: yna mae W-T-C yn ffeilio’r ateb fel pe bai’n ymholiad newydd, o dan y
pennawd ATB:
Dyma pam mae'r rhesaid yna o gofnodion o dan y pennawd ATB: ac mae'n
drueni wedyn fod llawer o atebion wedi’u gwahanu oddi wrth yr
ymholiad a’u sbardunodd nhw.
Mae bugeiliaid y cylch yn ceisio cael JISCMAIL i ddatrys hyn, ond yn y
cyfamser os gallwn ni ddileu'r rhagddodiad ATB: o flwch y pwnc cyn anfon
ein hatebion i'r cylch, fe fydd hynny'n helpu i gadw'r llinyn yn ddi-dor.
|