Dyma un diffiniad ar wefan Sefydliad Canser UDA:
A decrease in or disappearance of signs and symptoms of cancer. In partial
remission, some, but not all, signs and symptoms of cancer have disappeared.
In complete remission, all signs and symptoms of cancer have disappeared,
although cancer still may be in the body.
Ac mae Geiriadur yr Academi wedi cofnodi ‘ysgafnhad’, ‘saib’, ‘ysbaid’ a
‘gollyngdod’ fel enwau sy’n cyfateb, ym maes meddygaeth, i ‘remission’.
Yn y frawddeg benodol yma, fyddai rhywbeth fel ‘sy’n helpu i sicrhau
gollyngdod parhaus i’r claf’ neu ‘sy’n helpu i ymestyn gollyngdod y claf o’i
salwch’ yn gweithio?
Yn fwy cyffredinol, gan fod ‘remission’ yn cael ei leddfu yn gyffredin â’r
geiriau 'partial' a 'complete', byddai’n dda cael ymadrodd a fyddai’n
gweithio'n hwylus yn y tri chyfuniad – ‘in remission’, ‘in partial
remission’ ac ‘in complete remission’.
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Muiris Mag
Ualghairg
Anfonwyd/Sent: 20 February 2007 13:42
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: In remission
Gofynnais i ryw bedwar diwrnod yn ol am help i gyfieithu 'which help
to keep the patient in remission' a heb dderbyn dim awgrymiadau, felly
dyma fi'n gofyn eto. Oes gan unrhyw un awgrym ysbrydoledig ar sut i'w
gyfieithu.
Diolch
Muiris
|