Er tegwch ā fi (!!!) roeddwn i wedi cynnig hynny - Rheolwr Gwerthu
Ardal y De - ond os oes gennych gwmni ā 36 (dyweder) o Reolwyr
Gwerthu Ardal, mae'n debyg na fyddai bob amser yn ymarferol cynnwys
enw'r ardal.
Ond - dw i'n cytuno y byddai'n well ysgrifennu enwau 72 o ardaloedd
na defnyddio "ardalyddol"!
Hwyl
Siān
On 26 Chwef 2007, at 21:40, [log in to unmask] wrote:
> Beth sy'n bod arnoch chi i gyd. Betia i chi na'r hyn y dywedsech
> chi yn naturiol fyddai Rheolwr Gwerthu Ardal Llanddeiniolen neu
> Reolwr Gwerthu Ardal Llanbrynmair.
> Ardalyddol - c'mon!
> magi
> ----- Original Message ----- From: "Siān Roberts"
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Monday, February 26, 2007 8:52 PM
> Subject: Re: ATB: Area Sales Manager
>
>
> Beth am "Rheolwr Ardal, Gwerthu" ?
>
> Siān
>
>
> On 26 Chwef 2007, at 20:35, John Puw wrote:
>
>> Ac ymddengys fod Hywel am wahaniaethu rhwng y Rheolwr Rhanbarthol a'r
>> Rheolwr Ardal. Rwy'n gwybod fod amwysedd ynghylch y term yn
>> Gymraeg, ond
>> mae ardal yn sicr yn llawer mwy derbyniol gair nag ardalyddol!!!
>>
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān
>> Roberts
>> Sent: 26 February 2007 20:25
>> To: John Puw
>> Subject: Re: ATB: Area Sales Manager
>>
>> Ond mae'n bosib bod Rhanbarth yn ehangach nag Ardal.
>> Dibynnu ar y corff dan sylw.
>>
>> Siān
>>
>> On 26 Chwef 2007, at 19:28, Huw Garan wrote:
>>
>>> Wela' i ddim byd o'i le ar 'Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol' =
>>> Regiional a '~
>>> Ardal' = Area. Mae'n ddigon cryno, yn ddealladwy ac yn swnio'n
>>> ddigon
>>> naturiol.
>>>
>>> Hg
>>>
>>>
>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical
>>> terminology and
>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siān
>>> Roberts
>>> Anfonwyd/Sent: 26 February 2007 18:02
>>> At/To: [log in to unmask]
>>> Pwnc/Subject: Re: Area Sales Manager
>>>
>>> Swn i'n osgoi "ardalyddol".
>>> Nyrs ardal yw "district nurse" ond mae peryg i "Rheolwr Gwerthu
>>> Ardal" a
>>> "Rheolwr Gwerthu'r Ardal" swnio fel pe bai'r truan yn gorfod
>>> gwerthu'r
>>> ardal.
>>> Ydi "Rheolwr Gwerthu ar gyfer yr Ardal" yn ormod o lond ceg.
>>> Weithiau, mae'n haws os yw'n dweud pa ardal "Rheolwr Gwerthu, Ardal
>>> y De"
>>> Beth am "Rheolwr Gwerthu Lleol" neu "Rheolwr Gwerthiant yr Ardal"?
>>> Mae GyrA yn cynnig "Rhanbarthol" am "Area" yn y math hwn o gyd-
>>> destun ond
>>> mae'n debyg eich bod chi eisiau gwahaniaethu rhwng Rhanbarth ac
>>> Ardal.
>>>
>>> Hwyl
>>> Siān
>>>
>>> On 26 Chwef 2007, at 15:27, Howard Huws wrote:
>>>
>>>> Eich cymorth i dorri dadl, os gwelwch yn dda:
>>>> Os "Regional Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol"
>>>> "Area Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Ardal" ynteu
>>>> "Ardalyddol"?
>>>>
>>>> Gwerthfawrogir pob awgrym.
>>
>> --
>> No virus found in this incoming message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.4/702 - Release Date:
>> 25/02/2007
>> 15:16
>>
>>
>> --
>> No virus found in this outgoing message.
>> Checked by AVG Free Edition.
>> Version: 7.5.446 / Virus Database: 268.18.4/702 - Release Date:
>> 25/02/2007
>> 15:16
>>
>
> __________ NOD32 2082 (20070226) Information __________
>
> This message was checked by NOD32 antivirus system.
> http://www.eset.com
|