Wela' i ddim byd o'i le ar 'Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol' = Regiional a '~
Ardal' = Area. Mae'n ddigon cryno, yn ddealladwy ac yn swnio'n ddigon
naturiol.
Hg
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siān Roberts
Anfonwyd/Sent: 26 February 2007 18:02
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Area Sales Manager
Swn i'n osgoi "ardalyddol".
Nyrs ardal yw "district nurse" ond mae peryg i "Rheolwr Gwerthu Ardal" a
"Rheolwr Gwerthu'r Ardal" swnio fel pe bai'r truan yn gorfod gwerthu'r
ardal.
Ydi "Rheolwr Gwerthu ar gyfer yr Ardal" yn ormod o lond ceg.
Weithiau, mae'n haws os yw'n dweud pa ardal "Rheolwr Gwerthu, Ardal y De"
Beth am "Rheolwr Gwerthu Lleol" neu "Rheolwr Gwerthiant yr Ardal"?
Mae GyrA yn cynnig "Rhanbarthol" am "Area" yn y math hwn o gyd-destun ond
mae'n debyg eich bod chi eisiau gwahaniaethu rhwng Rhanbarth ac Ardal.
Hwyl
Siān
On 26 Chwef 2007, at 15:27, Howard Huws wrote:
> Eich cymorth i dorri dadl, os gwelwch yn dda:
> Os "Regional Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol"
> "Area Sales Manager" = "Rheolwr Gwerthu Ardal" ynteu "Ardalyddol"?
>
> Gwerthfawrogir pob awgrym.
|