Yn ei erthygl ar td. 2 yn y rhifyn cyfredol o'r Cymro, mae Geraint Jones yn
defnyddio'r gair 'arobryn' ddwywaith ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Siân Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 07, 2006 11:28 PM
Subject: Re: ATB: award-winning
Dw i'n dal mewn sioc ar ôl i 'nhad yng nghyfraith ddweud wrtha i bod
y gaseg wedi cael cyw!
Gyda llaw - roedd John yn sôn am ryw broblem yn y system ddoe -
rwy'n cael 5 neu 6 o'r negeseuon hyn ar y tro - rhyw dagfa yn rhywle.
Hwyl
Siân
On 7 Gorff 2006, at 06:56, Puw, John wrote:
> Roedd ffrind i mi (Gwyddeles) yn dweud am ei merch rai blynyddoedd yn ôl
> pan symudodd y teulu i Nebo Llanrwst. Roedd hi'n enwi'r fenyw ac yn yna'r
> gwryw cyfatebol. Roedd ei rhestr yn cynnwys buwch / tarw; dafad /
> maharen (ysgol Capel Garmon! Ys dywed ffrind arall i mi o Ddinas Mawddwy,
> am enw dwl ar hwrdd!!!!); iar / ceiliog. Roedd ei brawd mawr yn gwrando
> ac wedi cael llond bol ar y sylw oedd ei chwaer yn ei gael! "So what's
> the male of Bitch?" gofynnodd. Basda'd oedd ateb y chwaer fach. Sori,
> af i nôl fy nghôt!
>
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann
> Corkett
> Anfonwyd/Sent: 07 Gorffennaf 2006 14:28
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: award-winning
>
> Ymhellach i fy neges ddoe, bum yn Siop albin ym Mangor Uchaf y bore 'ma a
> chlywed gwraif yn dweud wrth y wraig y tu ol i'r cownter:
> "the Shetland pony in the field had a baby last night" - the mind
> boggles!
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:52 PM
> Subject: Re: award-winning
>
>
> 'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym
> Mhorthaethwy.
> 'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-winning"; y Cymro
> wedi
> arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i gopio'n anghywir, a llawer
> o
> daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir. Awgrymais "arobryn" a chael ganddo
> fod y Cymro eisoes wedi son am y gair ond ei wrthod fel rhywbeth diarth.
> "Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda chaniated - ond nid bendith - Bruce.
> Beth yw pwynt bod a gair da am rywbeth a methu ei ddefnyddio? Sut mae'r
> broses yn gweithio bod geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae
> rhybeth
> fel "Pwyllgor" yn cymryd ei le yn iawn? Mae 'ffrind' wedi'i dderbyn yn
> lle,
> neu wrth ymyl 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" - a oedd
> yn
> ymwneud a partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli
> "cymar/cymhares" yn llwyr. Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad ymwybodol
> i
> fod yn llai pendant? Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o ddefnyddio
> "cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd yn ol,
> ond
> 'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
>
> Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r Gymraeg
> yn
> unig sy'n dioddef. Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur yn son
> am
> baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati? A dyma'r
> rhaglenni
> sydd i fod i addysgu pobl!
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
> Subject: Re: award-winning
>
>
> Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol. Cofnodir 150
> enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
>
>
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm? orgid=92&id=35329&pid=4026
> Health Minister Visits Award-Winning Nurses
>
>
> http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?
> orgid=92&id=35484&pid=12180
> Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
>
>
>
> Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o
> 'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac
> 'wedi ennill gwobr'.
>
> Cofion gorau,
>
> Huw
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 06 July 2006 10:22
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: award-winning
>
> Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
> gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
> Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha
> sicr
> ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
> Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
>
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Free Edition.
> Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
> Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
> Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar
> y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
>
> Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
> Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
> gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
> ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai
> nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi
> am eich cydweithrediad.
>
> Heddlu Gogledd Cymru
>
> Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
> North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
>
> This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
> the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised
> use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in
> this document may not be official policy. Thank you for you
> co-operation.
>
> North Wales Police

--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
|