Roedd ffrind i mi (Gwyddeles) yn dweud am ei merch rai blynyddoedd yn ôl pan symudodd y teulu i Nebo Llanrwst. Roedd hi'n enwi'r fenyw ac yn yna'r gwryw cyfatebol. Roedd ei rhestr yn cynnwys buwch / tarw; dafad / maharen (ysgol Capel Garmon! Ys dywed ffrind arall i mi o Ddinas Mawddwy, am enw dwl ar hwrdd!!!!); iar / ceiliog. Roedd ei brawd mawr yn gwrando ac wedi cael llond bol ar y sylw oedd ei chwaer yn ei gael! "So what's the male of Bitch?" gofynnodd. Basda'd oedd ateb y chwaer fach. Sori, af i nôl fy nghôt!
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 07 Gorffennaf 2006 14:28
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: award-winning
Ymhellach i fy neges ddoe, bum yn Siop albin ym Mangor Uchaf y bore 'ma a
chlywed gwraif yn dweud wrth y wraig y tu ol i'r cownter:
"the Shetland pony in the field had a baby last night" - the mind boggles!
Ann
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 06, 2006 12:52 PM
Subject: Re: award-winning
'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym Mhorthaethwy.
'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-winning"; y Cymro wedi
arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i gopio'n anghywir, a llawer o
daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir. Awgrymais "arobryn" a chael ganddo
fod y Cymro eisoes wedi son am y gair ond ei wrthod fel rhywbeth diarth.
"Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda chaniated - ond nid bendith - Bruce.
Beth yw pwynt bod a gair da am rywbeth a methu ei ddefnyddio? Sut mae'r
broses yn gweithio bod geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae rhybeth
fel "Pwyllgor" yn cymryd ei le yn iawn? Mae 'ffrind' wedi'i dderbyn yn lle,
neu wrth ymyl 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" - a oedd yn
ymwneud a partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli
"cymar/cymhares" yn llwyr. Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad ymwybodol i
fod yn llai pendant? Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o ddefnyddio
"cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd yn ol, ond
'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r Gymraeg yn
unig sy'n dioddef. Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur yn son am
baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati? A dyma'r rhaglenni
sydd i fod i addysgu pobl!
Ann
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
Subject: Re: award-winning
Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol. Cofnodir 150
enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=92&id=35329&pid=4026
Health Minister Visits Award-Winning Nurses
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?orgid=92&id=35484&pid=12180
Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o
'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac
'wedi ennill gwobr'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 July 2006 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award-winning
Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha sicr
ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales Police

|