Mewn cyd-destun fel pennawd, gall fod yn anodd ei osgoi, ond byddwn i'n
meddwl ddwywaith, deirgwaith a phedair gwaith cyn ei ddefnyddio!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 06, 2006 12:36 PM
Subject: Re: award-winning
Rwy'n cytuno, Huw - does dim un enghraifft o "gwobredig" i'w gweld o chwilio
yn Google ond wedi dweud hynny mae sawl enghraifft o "gwobrwyedig".
Garmon
Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Huw Tegid
Sent: 06 July 2006 12:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award-winning
Diolch am dynnu sylw at 'award-winning' Siân. Roeddwn innau mewn sefyllfa
debyg yn ddiweddar - roeddwn i wedi cynnig 'arobryn' i rywun Di-Gymraeg yma
ym Môn, gan feddwl y byddwn i am unwaith yn gallu cynnig pennawd Cymraeg
byrrach na'r un Saesneg. Pan ddangosodd hwnnw'r poster i gymydog a oedd yn
arfer dysgu mewn ysgol gynradd, dywedodd hwnnw nad oedd o'n gwybod beth oedd
ystyr 'arobryn'.
Dyna chwip din i minnau am anghofio bod angen i gyfieithiad fod yn
ddealladwy i Jo Pyblic!
Cynnig y cyn-athro hwnnw, os cofiaf yn iawn, oedd 'gwobredig', ond does dim
golwg o'r fath air yn unman hyd y gwelaf i. Byth ers hynny rydw i wedi bod
yn gobeithio na chaf i bennawd i'w gyfieithu sy'n cyfeirio at
'award-winning', pan nad oes modd gweu 'wedi ennill gwobrau' i rediad y
frawddeg!
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 July 2006 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award-winning
Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha sicr
ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
|