'Rwyf wedi cael yn union yr un sgwrs a dyn busnes o ddysgwr ym Mhorthaethwy.
'Roedd o wedi gofyn i Gymro am gyfieithiad o "award-winning"; y Cymro wedi
arddweud rhywbeth dros y ffon, y dysgwr wedi'i gopio'n anghywir, a llawer o
daflenni wedi'u hargraffu'n anghywir. Awgrymais "arobryn" a chael ganddo
fod y Cymro eisoes wedi son am y gair ond ei wrthod fel rhywbeth diarth.
"Gwobrwyedig" awgrymais wedyn, gyda chaniated - ond nid bendith - Bruce.
Beth yw pwynt bod a gair da am rywbeth a methu ei ddefnyddio? Sut mae'r
broses yn gweithio bod geiriau'n cael eu colli fel hyn, ac eto mae rhybeth
fel "Pwyllgor" yn cymryd ei le yn iawn? Mae 'ffrind' wedi'i dderbyn yn lle,
neu wrth ymyl 'cyfaill/cyfeilles', ond mae'n biti bod "partner" - a oedd yn
ymwneud a partner busnes neu chwarae "bridge" - wedi disodli
"cymar/cymhares" yn llwyr. Ydy hyn yn ddiogi - neu ddymuniad ymwybodol i
fod yn llai pendant? Gallaf gofio arfer Cyngor Ceredigion o ddefnyddio
"cymar/cymhares" ar wahoddiadau i ginio'r Cadeirydd flynyddoedd yn ol, ond
'dych chi byth yn ei glywed yn awr.
Gyda llaw, tra bod gen i amser i fwydro, peidiwch a theimlo mai'r Gymraeg yn
unig sy'n dioddef. Ydych chi wedi sylwi sut mae rhaglenni natur yn son am
baby birds, baby sheep ayb, yn lle chicks, lambs ac ati? A dyma'r rhaglenni
sydd i fod i addysgu pobl!
Ann
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 06, 2006 12:31 PM
Subject: Re: award-winning
Mae'n ddrwg gen i - dyma ôl-nodyn i'r neges flaenorol. Cofnodir 150
enghraifft o 'Gwobrwyedig' ar Google - e.e.
http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=92&id=35329&pid=4026
Health Minister Visits Award-Winning Nurses
http://www.wales.nhs.uk/sites3/w-docmetadata.cfm?orgid=92&id=35484&pid=12180
Y Gweinidog Iechyd Yn Ymweld  Nyrsus Gwobrwyedig
Fe'i dyfynnir yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru hefyd fel cyfieithiad o
'prize-winning', neu air sy'n debyg i'r ymadroddion Cymraeg 'arobryn' ac
'wedi ennill gwobr'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 July 2006 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: award-winning
Doeddwn i ddim wedi clywed 'arobryn' tan o'n i yn y coleg - a dysgwr
gyflwynodd y gair i mi bryd hynny!
Wnes i ei ddefnyddio yn ddiweddar a daeth y cwsmer - sy'n Gymraes eitha sicr
ei Chymraeg - yn ôl ataf a gofyn ai camgymeriad oedd e.
Mae arna i awydd defnyddio "llwyddiannus" y tro hwn.
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.9/382 - Release Date: 04/07/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.8/380 - Release Date: 30/06/2006
|