Dylid ymbwyllo cyn rhuthro i gyfieithu'n slafaidd unrhyw enw Saesneg, yn
enwedig un hirwyntog a llethchwith fel hwn. Ac os yw hwn yn *brin*, ni
ellir dweud bod ganddo enw "cyffredin" - enw Saesneg lleol iawn yw hwn, mi
gymeraf. Hoffwn gael disgrifiad *manwl* ohono, neu'n well byth llun lliw i
weld ai "blackberries in custard" yw'r unig enw posibl a awgrymir gan yr
olwg arno. Efallai ei fod, ond cawn weld. Mae'r enw Lladin yn awgrymu y
dylai ei enw Cymraege gynnwys yr elfen "Iwerddon" neu "gwyddelig". Neu, os
canfuwyd ef mewn un llecyn yng Nghymru, gellid cynnwys enw'r llecyn hwnnw
(e.e. llecyn Ffestiniog).
Bruce
Tybed pam y dewisodd yr enghraifft honno? 'Rywf wedi edrych dan "images" ar
Google eisoes. Os gall unrhyw ein pwyntiau ni at rywbeth defnyddiol, byddwn
yn ddiolchgar.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 13, 2006 1:16 PM
Subject: Blackberries in Custard
Mae math o gen prin - Pyrenula hibernica - wedi'i ganfod yn y gogledd.
Dim ond yn Ucheldiroedd yr Alban a de orllewin Iwerddon y mae wedi'i gofnodi
o'r blaen.
Yr enw cyffredin amdano yn Saesneg yw "Blackberries in Custard".
A fyddai'n saff, felly, i mi ei alw'n "Mwyar Duon mewn Cwstard"?
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.10/387 - Release Date: 12/07/2006
|