Dylid ymbwyllo cyn rhuthro i gyfieithu'n slafaidd unrhyw enw Saesneg, yn enwedig un hirwyntog a llethchwith fel hwn. Ac os yw hwn yn *brin*, ni ellir dweud bod ganddo enw "cyffredin" - enw Saesneg lleol iawn yw hwn, mi gymeraf. Hoffwn gael disgrifiad *manwl* ohono, neu'n well byth llun lliw i weld ai "blackberries in custard" yw'r unig enw posibl a awgrymir gan yr olwg arno. Efallai ei fod, ond cawn weld. Mae'r enw Lladin yn awgrymu y dylai ei enw Cymraege gynnwys yr elfen "Iwerddon" neu "gwyddelig". Neu, os canfuwyd ef mewn un llecyn yng Nghymru, gellid cynnwys enw'r llecyn hwnnw (e.e. llecyn Ffestiniog). Bruce Tybed pam y dewisodd yr enghraifft honno? 'Rywf wedi edrych dan "images" ar Google eisoes. Os gall unrhyw ein pwyntiau ni at rywbeth defnyddiol, byddwn yn ddiolchgar. Ann ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, July 13, 2006 1:16 PM Subject: Blackberries in Custard Mae math o gen prin - Pyrenula hibernica - wedi'i ganfod yn y gogledd. Dim ond yn Ucheldiroedd yr Alban a de orllewin Iwerddon y mae wedi'i gofnodi o'r blaen. Yr enw cyffredin amdano yn Saesneg yw "Blackberries in Custard". A fyddai'n saff, felly, i mi ei alw'n "Mwyar Duon mewn Cwstard"? -- No virus found in this incoming message. Checked by AVG Free Edition. Version: 7.1.394 / Virus Database: 268.9.10/387 - Release Date: 12/07/2006