Mae i chi groeso, ond gen i mae'r lle i ddiolch i chi, Berwyn, am y geirfâu Cymraeg-Saesneg a Saesneg/Cymraeg, sy'n aml yn ateb yr ymholiadau mwyaf dyrys sy'n cyrraedd yma.
Cofion gorau,
Huw
Swyddog Llinell Gyswllt â'r Gymraeg
www.llinellgyswllt.com
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones
Sent: 10 May 2006 11:40
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Players
Diolch i ti, Huw, am ddyfynnu fy ngeiriau! Gallwn ychwanegu: ffigyrau, unigolion, cwmniau, sefydliadau, carfannau, elfennau - a hyd yn oed 'ceffylau blaen'! Rhwng y ddau olaf (elfennau, neu ceffylau blaen) y byddwn i'n dewis, rwy'n meddwl, yn y cyd-destun sydd gan Eirian.
Er bod rhywfaint o sawr cyfieitheg yn perthyn iddo, mae'n ddigon posib na châi'r darllenydd fawr o drafferth i ddeall 'chwaraewyr' ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 10, 2006 11:32 AM
Subject: Re: Players
Yng ngeirfa Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr, ceir y cofnod
canlynol:
player: to become a leading p. in the market - dod yn/datblygu'n
rym/gystadleuydd blaenllaw/un o'r prif gystadleuwyr yn y farchnad; a leading
p. - ceffyl blaen; to be a key p. in - bod yn allweddol yn/mewn
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/geirfa.asp
Hoffwn eilio 'ceffyl blaen'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 10 May 2006 11:08
To: [log in to unmask]
Subject: Players
Hynny yw, y bobl bwerus!
'....the key players in the industry are......'
Mae'r cyd-destun yn son am unigolion a sefydliadau, nid unigolion yn unig.
Tybed a yw rhywun wedi dod o hyd i ffordd synhwyrol o gyfleu hyn yn y
Gymraeg?
Diolch
Eirian
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.5/335 - Release Date: 09/05/2006
|