Dim byd yn bod ar 'pobl allweddol' am wn i, ond efallai y byddai'r
'blaenllaw' o restr Berwyn yn well. 'Pobl flaenllaw'?
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, May 11, 2006 8:37 AM
Subject: Re: Players
Mae un o'r ymadroddion lle mae llawer iawn yn dibynnu ar dôn y llais, ac ryn
ni wedi arfer (gormod, efallai) â chlywed coegni gwilymowenaidd yn llais y
siaradwr ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dwynwen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 10, 2006 10:59 PM
Subject: Re: Players
Dwi'n cytuno hefo chi Mary. Mae elfen o feirniadaeth pan da chi'n galw
rhywun yn "geffyl blaen" di'n meddwl.
Dwynwen
----- Original Message -----
From: "Mary Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 10, 2006 9:41 PM
Subject: Re: Players
Mae'n ddrwg gen i roi sbragyn yn yr olwyn, ond mae ystyr o fod yn ymwthiol i
'ceffyl blaen', rwy'n credu. Nid 'lead horse' yw'r ystyr fel rheol (ceffyl
golau yw hwnnw), ond ceffyl sy'n dipyn o fwli. Fydde hi'n fwy diogel
defnyddio enw arall yn hytrach na 'ceffyl', falle? Rwy'n cytuno nad yw 'prif
chwaraewyr' yn rhy ddychrynllyd. Unwaith eto, ymddiheuriadau am hollti blew!
Mary
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 10 May 2006 11:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Players
Diolch Huw a Berwyn - ceffylau blaen amdani!
Eirian
----- Original Message -----
From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 10, 2006 11:40 AM
Subject: Re: Players
Diolch i ti, Huw, am ddyfynnu fy ngeiriau! Gallwn ychwanegu: ffigyrau,
unigolion, cwmniau, sefydliadau, carfannau, elfennau - a hyd yn oed
'ceffylau blaen'! Rhwng y ddau olaf (elfennau, neu ceffylau blaen) y byddwn
i'n dewis, rwy'n meddwl, yn y cyd-destun sydd gan Eirian.
Er bod rhywfaint o sawr cyfieitheg yn perthyn iddo, mae'n ddigon posib na
châi'r darllenydd fawr o drafferth i ddeall 'chwaraewyr' ...
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Huw Tegid" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, May 10, 2006 11:32 AM
Subject: Re: Players
Yng ngeirfa Berwyn Prys Jones ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr, ceir y cofnod
canlynol:
player: to become a leading p. in the market - dod yn/datblygu'n
rym/gystadleuydd blaenllaw/un o'r prif gystadleuwyr yn y farchnad; a leading
p. - ceffyl blaen; to be a key p. in - bod yn allweddol yn/mewn
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/cymraeg/adnodd/geirfa.asp
Hoffwn eilio 'ceffyl blaen'.
Cofion gorau,
Huw
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eirian Youngman
Sent: 10 May 2006 11:08
To: [log in to unmask]
Subject: Players
Hynny yw, y bobl bwerus!
'....the key players in the industry are......'
Mae'r cyd-destun yn son am unigolion a sefydliadau, nid unigolion yn unig.
Tybed a yw rhywun wedi dod o hyd i ffordd synhwyrol o gyfleu hyn yn y
Gymraeg?
Diolch
Eirian
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.5/335 - Release Date: 09/05/2006
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.5/335 - Release Date: 09/05/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.5/335 - Release Date: 09/05/2006
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Free Edition.
Version: 7.1.392 / Virus Database: 268.5.5/335 - Release Date: 09/05/2006
|