Sylw caredig - mae gwahanol gyweiriau ieithyddol i'w cael, ac mae
cyfieithydd o safon fel Siān yn gwybod yn dda amdanyn nhw. Mae defnyddio
'arnon' yn gwbl addas yng nghyd-destun y cylch trafod yma.
GMR
----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, April 24, 2006 5:43 PM
Subject: Playing the crwth
> Os yw "chwarae'r piano" yn eithriad, diogelach fyddai glynnu at "canu",
> rhag taro nodyn chwithig.
>
> Parthed y cyfryngau torfol, y "pwynt" yw bod safon eu Cymraeg mor anghyson
> (onid cyson wael) fel nad oes modd derbyn eu harweiniad ym materion
> ieithyddol.
>
> Cymraeg cywir yn "uwch-ddosbarth canol / elitaidd"? I'r gwrthwyneb: yn
> fynych, ceir y Cymraeg cywiraf yng ngenau'r uniaith neu agos-uniaith nad
> oes iddynt gyfoeth namyn golud ieithyddol a diwylliannol. Os cyfoeth sy'n
> pennu safon ein Cymraeg, byddai llon'd Gwynedd o filiwnyddion. Arwydd
> awydd
> ymddyrchafu yw defnyddio Cymraeg clapiog a llediaith Seisnig.
>
> Sylwaf y daw'r cyhuddiad "uwch-ddosbarth canol / elitaidd" amlaf o du'r
> uwch-ddosbarth canol elitaidd. Cynta' glyw, hwnnw yw?
>
> Gwyddwn fod agweddau pardduol o'r fath i'w cael ymysg y gwrth-Gymraeg, ond
> siom yw eu canfod ymysg cyfieithwyr, o bawb. Os nad oes gennym barch at
> offer sylfaenol ein crefft, pa ddiben parhau'n gyfieithwyr?
>
> "Arnon" (sic): gweler Gramadeg Cymraeg D. A. Thorne, tud.384. Os gwyddoch
> am awdurdod amgen, rhoddwch wybod imi, os gwelwch yn dda.
>
|