CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd 31
Me Gwasanaeth Gwybodaeth CyMAL yn defnyddio gwasanaeth rhestr ddosbarthu
JISC. Am wybodaeth pellach ewch i:
http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?SUBED1=museums-info&A=1
CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Cofnod y Trafodion - 25.1.01
Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru
C3 Lorraine Barrett: Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cymryd i
annog mwy o bobl i ymweld ag Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru?
OAQ0569(CWS)
Alun Pugh: Mae ffigurau ymwelwyr ag Orielau ac Amgueddfeydd Cenedlaethol
Cymru wedi cynyddu'n sylweddol ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno
mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ym mis Ebrill 2001. Gwelwyd
cynnydd o 77 y cant mewn ffigurau yn ystod 2004-05 o gymharu â'r flwyddyn
olaf o godi tâl mynediad.
Lorraine Barrett: Yr wyf yn falch iawn, diolch i'r polisi mynediad am ddim a
gyflwynwyd gan Lafur, bod nifer y bobl o gefndiroedd llai breintiedig wedi
bron â dyblu. Fodd bynnag, fel y gwyddoch mae'n siwr, mae gwaith i'w wneud o
hyd o ran sicrhau bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael mynediad i'n
hamgueddfeydd ac orielau. Pa gamau yr ydych yn eu cymryd i sicrhau bod yr
amgueddfeydd yn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac i ddechrau meddwl am
rywfaint o'r gwaith y gallant ei wneud i annog mwy o bobl o'n cymunedau
lleiafrifoedd ethnig i gael mynediad i'r amgueddfeydd ac orielau?
Alun Pugh: Y mae'n deg dweud bod y cynllun mynediad am ddim wedi bod yn
llwyddiant ysgubol, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran y
cyfansoddiad a'r cymysgedd o ymwelwyr, yn enwedig pobl o gymunedau sy'n
ddifreintiedig yn gymdeithasol. Mae'r pwyntiau a godwyd gennych ynglyn â
chymunedau lleiafrifoedd ethnig yn rhai dilys. Gwn fod gan yr amgueddfeydd
a'r orielau sawl prosiect ar waith i fynd i'r afael â'r mater hwn. Credaf y
byddai pawb yn derbyn bod angen gwneud mwy yn y maes hwn.
Alun Ffred Jones: Yn fy etholaeth, mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn
llwyddiant mawr. Fodd bynnag, mae problemau ar safle caer Segontium yng
Nghaernarfon. Mae hanes cyfoethog i Gaernarfon, o ddyddiau'r Rhufeiniaid,
drwy gastell Edward I, a'r diwydiant llechi a'r llongau a oedd yn hwylio i
bedwar ban y byd. Mae cynlluniau ar y gweill i greu canolfan dreftadaeth yn
y dref. A fuasech yn fodlon cyfarfod dirprwyaeth o'r dref i drafod y cynllun
diddorol hwn?
Alun Pugh: Byddwn yn falch o gyfarfod â'r ddirprwyaeth, fel yr awgrymwyd
gennych. Mae'n deg dweud bod yr amgueddfa lechi wedi bod yn llwyddiant
ysgubol. Yn yr un modd â'r amgueddfeydd cenedlaethol eraill, mae'r amgueddfa
wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n ymweld â hi ers inni
ddiddymu taliadau mynediad.
David Melding: A ydych yn cytuno bod angen inni ailddyblu ein hymdrechion i
annog ysgolion a cholegau i gynnal ymweliadau astudio â'n horielau, yn
benodol? Un ffordd o wneud hyn yw sicrhau bod tywyswyr hyfforddedig ar gael
a all dywys pobl drwy'r casgliadau, a chyfoethogi eu profiad o
werthfawrogi'r celfyddydau gweledol.
Alun Pugh: Cytunaf. Cyflogir tywyswyr hyfforddedig ym mhob un o'n
hamgueddfeydd ac orielau, ac yr wyf yn cael fy synnu byth a hefyd gan eu
stôr aruthrol o wybodaeth. Os ydych yn profi unrhyw broblemau penodol gydag
unrhyw grwpiau ysgol, hoffwn wybod amdanynt.
Jenny Randerson: Er budd pawb sy'n bresennol, hoffwn egluro, yn wahanol i
ensyniad Lorraine Barrett, nad wyf wedi ymuno â'r Blaid Lafur.
Bu'r polisi mynediad am ddim i amgueddfeydd yn llwyddiant aruthrol, fel yr
ydych wedi sôn, Weinidog. Nodaf fod 38 y cant o'r ymwelwyr yn 2004-05 wedi
dod o grwpiau o dan anfantais gymdeithasol, ond sylwaf hefyd mai 38 y cant
yw'r targed ar gyfer y flwyddyn nesaf. A allwch chi egluro pam nad ydych
wedi pennu targed uchelgeisiol o gynyddu nifer yr ymwelwyr o grwpiau o dan
anfantais gymdeithasol, ac a ydych yn hapus felly â'r sefyllfa bresennol, o
ystyried nad yw'r targed wedi'i gynyddu? Yn y sefyllfa honno, a fyddech
chi'n derbyn mai un ffordd o gynyddu argaeledd ein diwylliant-yn ystyr
ehangaf y gair hwnnw-i grwpiau o dan anfantais gymdeithasol fyddai agor pob
castell a heneb sy'n berchen i Cadw i'r cyhoedd am ddim?
Alun Pugh: Mae mynediad am ddim wedi bod yn llwyddiant mawr. Yr ydym am
sicrhau bod pobl o ardaloedd o dan anfantais gymdeithasol yn cael gwerth
llawn o'r symiau sylweddol o arian cyhoeddus yr ydym yn eu buddsoddi mewn
diwylliant a'r celfyddydau-nid yn unig mewn amgueddfeydd ac orielau, ond ym
mhob agwedd ar ein gwariant diwylliannol.
Yr ydych yn gofyn imi wneud ymrwymiad gwario yn y fan a'r lle ar ran y staff
yn Cadw; ni wnaf hynny, ond ailgadarnhaf gerbron y Cynulliad y bydd mynediad
i bob un o'n heiddo, o gastell Caernarfon yn y gogledd i Gastell Coch yn y
de, am ddim ar ein diwrnod cenedlaethol, 1 Mawrth.
http://tinyurl.com/afjtz
Cefnogaeth i Amgueddfeydd Bychain yng Nghymru
C11 Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth
y Cynulliad i amgueddfeydd bychain yng Nghymru? OAQ0585(CWS)
Alun Pugh: "Small museums make a valuable contribution to the preservation
of Welsh heritage. Through CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales, the
Assembly Government provides specialist advice, free training and financial
support. Registered small museums are eligible to apply to CyMAL's museums
grant schemes. In 2005-06 a total allocation of £400,000 is available."
http://tinyurl.com/8cays
Gwasanaeth Gwybodaeth Amgueddfeydd
Os ydy
ch yn gwybod am unrhyw un a hoffai gael ei ychwanegu i'r rhestr, neu hoffai
gael copi caled o'r newyddion, neu os ydych heb fynediad i'r we ac am gopi
caled cysylltwch â Carol Whittaker. Byddwch yn dal i dderbyn copi caled os
ydych ar y rhestr ddosbarthu presennol.
Bydd fersiwn Cymraeg a Saesneg o'r bwletin yn cael eu dosbarthu ar wahan yn
dilyn sylwadau darllenwyr.
Carol Whittaker AMA
Museums Development Adviser
Cynghorydd Datblygu Amgueddfeydd
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru CyMAL: Museums Archives
and Libraries Wales
Llywodraeth Cynulliad Cymru . Welsh Assembly Government
01970 610 238
[log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol ac
nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig ag ef.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal
and not necessarily those of the National Assembly for Wales,any constituent
part or connected body.
The original of this email was scanned for viruses by the Government Secure Intranet (GSi) virus scanning service supplied exclusively by Energis in partnership with MessageLabs.
On leaving the GSi this email was certified virus-free.
Mae fersiwn wreiddiol y neges e-bost hon wedi'i sganio am feirysau gan wasanaeth sganio feirysau Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSi) a ddarperir yn arbennig gan Energis mewn partneriaeth â MessageLabs.
Wrth i'r neges e-bost hon adael GSi, ardystiwyd nad oedd firws ynddi.
|