Cytunaf David ond mae'n dal yn fore a dwi'n methu meddwl yn glir. Be yn
union wyt ti'n ei awgrymu fyddai'n gywir yn y cyswllt hwn?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 07 December 2005 10:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: recreational use of drugs
Mae'r defnydd o ymadrodd fel "y defnydd o gyffuriau" yn fwy na chwithig.
Mae'r defnydd o iaith fel hyn yn anghywir. Byddai'r defnydd o rywbeth
arall yn well. Mae'r gost o ganiatįu iaith fel hyn yn ddrud.
Gobeithio'ch bod chi'n gweld y pwynt o'r neges yma!
Pwy ddwedodd wrtha i flynyddoedd yn ōl mai gair arall am 'frethyn' yw
'defnydd' a'i bod yn well ei gadw fe i'w ddefnyddio fel'na?
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 07 December 2005 09:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: recreational use of drugs
Yr unig ffordd arall a wela i o gyfuno'r geiriau yw 'defnydd hamdden o
gyffuriau', ond mae honno hefyd yn fy nharo braidd yn chwithig.
----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 07, 2005 9:14 AM
Subject: Re: recreational use of drugs
Diolch - ydi "er hamdden" yn ymadrodd cydnabyddedig?
Mae'n taro braidd yn chwithig i mi.
Diolch i bawb
Siān
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Pennawd Cyf.
Sent: 06 December 2005 16:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: recreational use of drugs
"recreational angler", er enghraifft, yw "pysgotwr hamdden", h.y. rhywun
sy'n pysgota fel hobi, er pleser, yn ei amser sbār, nid er mwyn ennill
bywoliaeth.
Fel onid "defnyddio cyffuriau er hamdden" sy'n disgrifio defnyddio
cyffuriau er pleser, yn eu hamser sbār, fel rhan o'u bywyd cymdeithasol,
nid trwy'r amser am eu bod yn gaeth iddynt?
|