e-covered.co.uk
Rhaid nodi mai nid gwefan cwmni yw'r uchod ond 'fferm ddolenni'
Unigolyn sydd wedi creu llawer o dudalennau gyda'r cynnwys
wedi ei ddwyn o wefannau cwmniau yswiriant, a dolen yn
cyfeirio at wefan gywir bob cwmni.
Y bwriad yw gallu cael y wefan wedi ei restru yn uchel yng
nghanlyniadau peiriannau chwilio, pan mae pobl yn chwilio am
eiriau fel 'insurance', a felly denu defnyddwyr i'r safle.
Os yw rhywun yn clicio ar 'click here for an instant quote'
mae hyn yn cael ei basio i gwmni hysbysebu sy'n cofnodi'r clic
cyn ail-gyfeirio i'r wefan iawn. Mae perchennog gwefan e-covered
yn gwneud arian o'r 'hysbyseb' yma am bob clic.
Dyna pam fod y cyfieithiadau i gyd mae'n siwr - er mwyn
dal defnyddwyr sy'n chwilio am hyswiriant (sic) ymhob
iaith.
Gan fod hanner Cymru wedi ymweld a'r safle nawr mae'n
siwr fod y perchennog wedi gwneud elw bach handi.
|