Mae prif baragraff neges Ann yn gwneud i mi sylweddoli fy mod i yn aml yn
dweud rhywbeth fel "mae'r asiantaeth yn defnyddio hyn a hyn".
Ond o feddwl, y gwir amdani yw mai "cyfieithwyr yr asiantaeth..." fyddai'r
disgrifiad gorau yn aml. Hynny yw, mae'r cyrff hyn yn aml yn prynu eu gwaith
cyfieithu o'r tu allan, a does dim trefniadau ganddyn nhw ar gyfer pennu
termau a'u safoni yn fewnol, heb sôn am eu cysoni ag arferion cyrff eraill.
Rwy'n siwr bod y cylch yma (a dyfodiad TermCymru wedyn) wedi gwneud byd o
les o safbwynt cysoni ymadroddion mewn Cymraeg cyhoeddus, ond mae Ann yn
dangos bod gwaith mawr ar ôl i'w wneud hefyd.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 12 August 2005 11:36
To: [log in to unmask]
Subject: Trunk Road
Dyma ffaith fach diddorol 'rwyf newydd ei ddarganfod o DermCymru.
'Roeddwn i eisoes yn gwybod bod y Cynulliad yn defnyddio "cefnffordd" ar
gyfer "trunk road", a "phriffordd" ar gyfer "highway", ac wedi dilyn yr un
arfer. Ond yn awr gwelaf - o DermCymru eto - nad yw'r "Trunk Road Agencies"
eu hunain yn dilyn yr arfer hon, e.e. Asiantaeth Prif Ffyrdd (dau air)
Gogledd Orllewin Cymru".
Dim awgrymiadau na sylwadau gen i, jyst ffaith fach syml i sirioli'ch
diwrnod.
Ann
|