Efallai fod arlliw mwy Cymreig i 'cwgen' ac mae ei ystyr yn cyfleu yr
un peth a'r 'cookie' Americanaidd - sef tamaid o does crwn, fflat.
Tybed a yw'r fynsen Albanaidd a'r cwgen Gymreig o'r un tarddiad,
gyda'r un gair yn cael ei ddefnyddio am does bara - gan nad oedd
cymaint o siwgr ar gael bob amser ym Mhrydain!! Dwn i'm!
'Debyg 'mod i wedi colli'r trên beth bynnag.
Eluned
On 7/25/05, Wyn Hobson <[log in to unmask]> wrote:
> Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu sylwadau ar y pwnc hwn.
>
> Mae'n amlwg nad oes term Cymraeg yn cael ei arfer ar lafar gwlad, felly
> rhaid mynd ati i fathu un. Buasai addasu awgrym Mary yn 'cwcen'/'cwcod' yn
> creu gair digon tebyg i'r Saesneg i bobl allu gweithio allan beth sydd dan
> sylw.
>
> Os oes gan y geiriau hyn ryw ystyr tafodieithol neu anllad na wn i amdano,
> rhowch waedd electronig o fewn yr awr nesa os gwelwch yn dda! Yn absenoldeb
> unrhyw broblemau o'r fath, fe anfonaf 'cwcen'/'cwcod' at y cleient fel
> bathiad newydd, a disgwyl i weld a fydd Morrisons yn barod i frathu arnyn
> nhw (os 'da chi'n dallt be dw i'n 'feddwl).
>
> Wyn
>
|