Yn ôl ym mis Ionawr 2003 cafwyd trafodaeth ar sut i gyfieithu 'Cookies' yn
ei ystyr cyfrifiadurol. Cytunwyd ar 'cwcis'.
Yn ddiweddar, bu gofyn i mi gyfieithu'r gair yn ei ystyr pethau-i'w-bwyta.
Ar ôl ymgynghori dwys gydag arbenigwraig (diolch Magi), penderfynwyd mai
bisgedi ydyn nhw, ac mai 'bisgedi' fyddai'r cyfieithiad.
Ond ow, ow ac och! Heddiw, mae gofyn i mi gyfieithu 'cookies' A 'biscuits'
ar gyfer arwyddion siop a fydd yn hongian y drws nesaf i'w gilydd.
Pa ffordd ymlaen??
Wyn
|