Diolch yn fawr iawn, iawn Magi.
'Chwalu Cerrig o'r Tu Allan i'r Corff gyda Thonnau Sioc Uwchsain' oedd ein
dewis dros dro ni. Beth wyt ti'n feddwl o'r cynnig?
Pob lwc yn yr ysbyty.
Sue
----- Original Message -----
From: <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, June 11, 2005 2:27 PM
Subject: Re: Extracorporeal Shock-Wave Lithotripsy
>a difyr iawn fu'r drafodaeth hon hefyd. Yn y lle cyntaf credaf gallwch
>chwalu cerrig eraill heblaw rhai yn yr aren gyda'r driniaeth hon - yn y
>goden fustl (gall bladder i chi a fi) hefyd.
> Oes raid i'r teitl hwn ddilyn y Saesneg yn slafaidd? Gall y Gymraeg fynnu
> fynd ei ffordd ei hun a gwrthod mabwysiadu termau sy'n anealladwy i lawer
> o'r boblogaeth nad oeddynt yn ddigon ffodus i ddysgu Lladin /Groeg.
>
> fyddai anymwthiol yn fwy dealladwy?
> Chwalu cerrig yn anymwthiol?
> Chwalu cerrig heb lawdriniaeth?
>
> Fedra i ddim yn fy myw gofio'r prynhawn ma os mai ultrasound a ddefnyddir
> ar gyfer y gwaith hwn (daeth y dechneg yn ffasiynol ar ol fy amser i, yr
> hen begor)
> Os felly gallech ddefnyddio
> chwalu cerrig gydag uwchsain neu ryw amrywiaeth ar hynny
> ond Dafydd, sori, wnaiff dy fersiwn di mo'r tro, dim ots os yw'n
> llythrennol gywir - meddylia am y cleifion druan.
> Dwi'n mynd i'r ysbyty fy hun fory am lawdriniaeth a gwyliau o'r gwaith
> cyfieithu a phe byddai rhywun yn dweud wrthyf i mod i am gael maenfaluriad
> siocdon allgorfforol byddwn wedi troi ar fy sawdl a mynd adre'n ol!
> magi
> ----- Original Message -----
> From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, June 11, 2005 1:23 AM
> Subject: Re: Extracorporeal Shock-Wave Lithotripsy
>
>
>> maenfaluriad siocdon allgorfforol?
>>
>> Dafydd
>>
>>
>> On Fri, 10 Jun 2005 15:53:29 +0100, INC Cyfieithu Translation
>> <[log in to unmask]> wrote:
>>
>>>Triniaeth malu cerrig yn yr arennau wrth ddefnyddio 'shock-waves' o'r tu
>> allan i'r corff.
>>>
>>>Llawer iawn o ddiolch ar brynhawn dydd Gwener!
>>>
>>>Sue
>>
>>
>
>
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.323 / Virus Database: 267.6.7 - Release Date: 10/06/2005
>
>
|