Mae gofyn bod yn gynnil ac yn fanwl gywir wrth ddisgrifio gweithrediadau
meddygol, e.e. wnaiff 'uwchsain' ar ei ben ei hun mo'r tro am nad yw'n
gwahaniaethu rhwng siocdon ('shockwave' yn ol GyrA) ac uwchsain
diagnostig. Gall termau cyffredinol (er eu bod yn aml yn offer defnyddiol
i'r cyfieithydd) megis 'o'r tu allan i'r corff' yng nghyd-destun
meddygaeth fod yn rhy amwys. Fel mae gramadeg yn bwysig mewn iaith, felly
mae termau sbesiffig yn bwysig mewn meddygaeth. Rhaid fod y term yn
ddealladwy yn fyd-eang, heb adael lle i gamddealltwriaeth.
Efallai bod y dewis "dros dro" yn ddigon cywir os yn drwsgl. Gall termau
meddygol ymhob iaith swnio'n reit arswydus wrth gwrs, ac anaml y bydd
cleifion yn eu deall os ydynt yn ymwneud â gweithrediadau technegol.
Pob lwc yn yr ysbyty!
Dafydd
>>>>I bobl "feddygol" - mae'n debyg y byddwn i'n gadael allan y tonnau
sioc gan y disgwyliwn iddynt ddeall sut oedd uwchsain yn gweithio beth
bynnag. Ac felly, gallwn ddisgwyl iddynt "ddeall" yr extracorporeal hefyd.
Falle mod i'n disgwyl gormod a bod Cymry yn glyfrach na'r Saeson sydd yn
gorfod cael y teitl llawn! Pe byddwn yn sgwennu'r daflen yn y lle cyntaf i
gleifion mae'n debyg y byddwn wedi gadael y tonnau sioc allan o'r Gymraeg
a'r Saesneg! A dwi ddim yn rhy siwr am yr extracorporeal chwaith!
Rhyfedd sut mae ymadrodd sy'n disgrifio yn union beth sydd ar y tun yn
gallu swnio fel pe bai wedi'i lunio i guddio pob ystyr ynte!<<<<
|