Ymddengys fod T.H. Parry-Williams wedi arloesi ym maes cyfieithu ymhell
cyn i'r proffesiwn dyfu i'w faint presennol, ac iddo gyfieithu nifer
fawr o oratorios i'r Gymraeg. Er gwybodaeth, mae Ysgol Gyfun Rhydfelen
wedi canu oratorios yn Gymraeg yn gyson, felly dyma un ffynhonnell o
wybodaeth ddibynadwy. Ar ben hynny, credaf y byddai Swyddfa'r
Eisteddfod Genedlaethol yn ffynhonnell arall o wybodaeth werth mynd ar
ei hôl.
Helen
Ysgrifennodd Huw Garan:
> Oes rhywun wedi dod ar draws (neu wedi llunio) cyfieithiad Cymraeg o
> weithiau Handel? Ar hyn o bryd dim ond geiriau Jephtha sydd eu hangen,
> ond mae'n fwy na thebyg y bydd rhai eraill o'i weithiau'n codi yn nes
> ymlaen.
>
> Diolch ymlaen llaw am bob cymorth
>
> Hg
--
Helen Smith (Cyfieithydd/Translator)
Canolfan Bedwyr
[log in to unmask]
Ffôn/Tel: 01248 383253 (allanol/external)
est/ext 3253 (mewnol/internal)
=^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^= =^^=
|