Dw i byth yn dweud "Cymro Cymraeg" am "Welsh-speaker" er tegwch â
dysgwyr o wledydd eraill. Ydi hynny'n rhy wlediyddol gywir?
Dydw i ddim yn hoffi "siaradwr Cymraeg" chwaith - nac ymadroddion fel
"dioddefwr ffliw" - felly mae 'mrawddegau i'n tueddu i fod braidd yn
gwmpasog.
Rwy'n synnu o hyd o glywed cyflwynwyr y Post Cyntaf ar fore Gwener yn
dweud bod "Gwilym Owen yn mynd i adolygu'r wasg Gymreig" - adolygu
cyhoeddiadau Cymraeg ac eitemau Cymraeg mewn papurau Saesneg y mae'n ei
wneud.
Mae'r cyflwynwyr fel pe baen nhw wedi mynd i'r eithaf arall ar ôl cael
eu cywiro am ddweud pethau fel "y Swyddfa Gymraeg" a "dafad Gymraeg".
Cofion
Siân
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 May 2005 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cymraeg a Chymreig
Sori. Dylwn fod wedi dweud. Dosbarth Cyfieithu a Gloywi Iaith yw hwn,
ac
maen nhw newydd gael gwaith cartref o'r Gymraeg i'r Saesneg sydd yn
amlwg
wedi peri anawsterau wrth i ddogfen Cymdeithas yr Iaith son sawl gwaith
am
bethau fel "cymunedau Cymraeg a Chymreig", felly 'roeddwn i'n gobeithio
cynnig sawl ateb posibl.
Gyda llaw, un peth mae llawer ohonynt yn dal i'w wneud yw cyfieithu
rhywbeth
fel "he was a Welsh-speaker" a "the applicant was a Welsh-speaking local
person" fel "siaradwr Cymraeg". Gwn fod dysgwyr a dysgwragedd yn bodoli
hefyd, gan fy mod i'n un ohonynt, ond dw i ddim yn meddwl mai bod yn
wleidyddol gywir yw'r reswm iddynt hepgor "Cymro Cymraeg", ond yn
hytrach
cyfieithu gair am air.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, May 06, 2005 12:47 PM
Subject: Re: Cymraeg a Chymreig
> Mae'r diffiniad yn swnio'n iawn. Wn i ddim pa fath o ddosbarth sy
gynnoch
> chi (gloywi iaith?) ond efo dysgwyr bydda i jyst yn defnyddio lot o
> enghreifftiau - caws Cymreig, llyfr Cymraeg, cerddoriaeth Gymreig,
> barddoniaeth Gymraeg. Mae'n rhaid pwysleisio bod ni'n defnyddio Cymru
i
> gyfieithu Welsh wrth sôn am gyrff cenedlaethol ac wrth gwrs y ffordd
gywir
o
> gyfieithu 'I'm Welsh' er bod lot o bobol ffordd hyn (gan gynnwys fy
mhlant)
> yn dweud 'Dw i'n Gymraeg.'
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 06 May 2005 12:26
> To: [log in to unmask]
> Subject: Cymraeg a Chymreig
>
>
> Dim brys, ond bydd yn rhaid imi drafod hyn gyda'r dosbarth y prynhawn
'ma.
> Tybed pa fath sgiliau y mae eraill yn eu defnyddio i ddod draws yr
anhawster
> yn y geiriau uchod. Gwn fod y cyfieithiad yn dibynnu ar y cyd-destun,
ond
> mae'r ddau air yn codi mor aml yn fy nghofnodion o hen gyfieithiadau
fel
na
> allaf ddod o hyd i'r enghreifftiau y mae arnaf eu heisiau.
>
> Welsh-speaking/language and Welsh in nature/identity??
>
> Diolch,
>
> Ann
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
>
>
>
|