Mae'n debyg y bydd Bwrdd yr Iaith yn cyhoeddi'r gronfa ddata o dermau
Windows ar ei wefan yn fuan fydd yn hwyluso'r broses o chwilio am y rhain.
Muiris
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, May 27, 2005 11:52 AM
Subject: Re: Termau cyfrifiadurol
"Tynnu" yw "remove" o dan y dewisiadau ar banel rheoli Windows Cymraeg.
Mae cyfoeth o dermau ar gael yn fersiwn Cymraeg windows i'r rhai sy'n
defnyddio hwnnw yn lle'r fersiwn Eingl-americanaidd: mae'n siwr y bydd
"uninstall" yno rywle hefyd.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eirlys Williams
Sent: 27 May 2005 11:38
To: [log in to unmask]
Subject: [Norton AntiSpam] Termau cyfrifiadurol
Wedi bod yn chwilio eisoes mewn dwy restr termau ar y we ond wedi methu â
dod o hyd i "Uninstall" a "Wizard". (Byddai diffiniad cryno o beth yn
hollol yw "Wizard" yn ddefnyddiol, hefyd! Ai rhaglen i hwyluso rhyw broses
megis arsefydlu?)
Hefyd, a oes rhywun allan yna yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth
rhwng "Remove" ac "Uninstall" yn y cyd-destun cyfrifiadurol a sut fyddech
chi'n eu cyfieithu? Roeddwn i'n meddwl i ddechrau mai tynnu'r CD allan o'r
gyriant oedd ystyr "Remove", ond mae'n debyg nad yw hynny'n wir o
angenrheidrwydd.
Diolch am unrhyw gymorth
Eirlys W
--
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.322 / Virus Database: 266.11.17 - Release Date: 25/05/2005
--
No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.322 / Virus Database: 266.11.17 - Release Date: 25/05/2005
|