Wedi bod yn chwilio eisoes mewn dwy restr termau ar y we ond wedi methu â
dod o hyd i "Uninstall" a "Wizard". (Byddai diffiniad cryno o beth yn
hollol yw "Wizard" yn ddefnyddiol, hefyd! Ai rhaglen i hwyluso rhyw broses
megis arsefydlu?)
Hefyd, a oes rhywun allan yna yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth
rhwng "Remove" ac "Uninstall" yn y cyd-destun cyfrifiadurol a sut fyddech
chi'n eu cyfieithu? Roeddwn i'n meddwl i ddechrau mai tynnu'r CD allan o'r
gyriant oedd ystyr "Remove", ond mae'n debyg nad yw hynny'n wir o
angenrheidrwydd.
Diolch am unrhyw gymorth
Eirlys W
|