Sori. Dylwn fod wedi dweud. Dosbarth Cyfieithu a Gloywi Iaith yw hwn, ac
maen nhw newydd gael gwaith cartref o'r Gymraeg i'r Saesneg sydd yn amlwg
wedi peri anawsterau wrth i ddogfen Cymdeithas yr Iaith son sawl gwaith am
bethau fel "cymunedau Cymraeg a Chymreig", felly 'roeddwn i'n gobeithio
cynnig sawl ateb posibl.
Gyda llaw, un peth mae llawer ohonynt yn dal i'w wneud yw cyfieithu rhywbeth
fel "he was a Welsh-speaker" a "the applicant was a Welsh-speaking local
person" fel "siaradwr Cymraeg". Gwn fod dysgwyr a dysgwragedd yn bodoli
hefyd, gan fy mod i'n un ohonynt, ond dw i ddim yn meddwl mai bod yn
wleidyddol gywir yw'r reswm iddynt hepgor "Cymro Cymraeg", ond yn hytrach
cyfieithu gair am air.
Ann
----- Original Message -----
From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, May 06, 2005 12:47 PM
Subject: Re: Cymraeg a Chymreig
> Mae'r diffiniad yn swnio'n iawn. Wn i ddim pa fath o ddosbarth sy gynnoch
> chi (gloywi iaith?) ond efo dysgwyr bydda i jyst yn defnyddio lot o
> enghreifftiau - caws Cymreig, llyfr Cymraeg, cerddoriaeth Gymreig,
> barddoniaeth Gymraeg. Mae'n rhaid pwysleisio bod ni'n defnyddio Cymru i
> gyfieithu Welsh wrth sôn am gyrff cenedlaethol ac wrth gwrs y ffordd gywir
o
> gyfieithu 'I'm Welsh' er bod lot o bobol ffordd hyn (gan gynnwys fy
mhlant)
> yn dweud 'Dw i'n Gymraeg.'
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
> Sent: 06 May 2005 12:26
> To: [log in to unmask]
> Subject: Cymraeg a Chymreig
>
>
> Dim brys, ond bydd yn rhaid imi drafod hyn gyda'r dosbarth y prynhawn 'ma.
> Tybed pa fath sgiliau y mae eraill yn eu defnyddio i ddod draws yr
anhawster
> yn y geiriau uchod. Gwn fod y cyfieithiad yn dibynnu ar y cyd-destun, ond
> mae'r ddau air yn codi mor aml yn fy nghofnodion o hen gyfieithiadau fel
na
> allaf ddod o hyd i'r enghreifftiau y mae arnaf eu heisiau.
>
> Welsh-speaking/language and Welsh in nature/identity??
>
> Diolch,
>
> Ann
>
> --
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
>
> --
> No virus found in this outgoing message.
> Checked by AVG Anti-Virus.
> Version: 7.0.308 / Virus Database: 266.11.5 - Release Date: 04/05/2005
>
>
>
|