Llawer o ddiolch. Fel mae'n digwydd mae "your patient" yn codi'n nes
ymlaen, felly 'rwyf wedi brathu'r bwled a defnyddio'r gair "claf" (ac "un
o'ch cleifion" yn y lle cyntaf). Fel mae Bruce yn dweud, mae'r broblem yr
un fath yn y Saesneg ond ein bod ni mor cyfarwydd a'r gair.
Ann
----- Original Message -----
From: "M.A.Elis" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, April 20, 2005 11:45 AM
Subject: Re: patient
> Beth am rywbeth fel 'sydd ar eich rhestr'?
>
> Ann Corkett wrote:
> >
> > Cwestiwn twp, mae'n siwr.
> >
> > Pan fyddaf yn wael, neu arnaf eisiau edrych fy nannedd, af at y
> > docto-a'r-doctor, neu at y deintydd'-a'r deintydd. Beth ydwyf pan nad
wyf
> > yn wael?
> >
> > Hynny yw, mae llythyr at feddyg teulu yn gofyn a yw unigolyn yn addas ar
> > gyfer rhyw swyddogaeth arbennig, ac yn dweud "The above-named person,
who is
> > a patient of yours ..." A gyfeirir at rywun fel "claf" yma, er nad yw'n
> > digwydd bod yn wael ar y pryd?
> >
> > Diolch,
> >
> > Ann
>
> --
> M.A.Elis [log in to unmask]
>
|