NEU, os ydych chi bellach yn gweithio ar Microsoft Cymraeg:
"Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
> ffenestr "At:", efo'r enw "Copi:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Copi:" ac mi
ddowch
> at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Cysylltiadau" i mewn i
ffenestr
> "At:", neu "Copi:" neu "Cudd:" Mae "Cudd" yn golygu "copi cudd" (!) ...."
Mae Microsoft Cymraeg ar gael i'w lwytho i lawr am ddim o wefan Microsoft,
OND rhaid ichi fod efo Windows XP i gael Windows yn Gymraeg, ac Office 2003
i gael Microsoft Office (Word, Outlook ac ati) yn Gymraeg.
Mae modd llwytho un i lawr heb y llall os mai dim ond un o'r rhain sydd
gennych chi.
Geraint
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, December 09, 2004 2:40 PM
Subject: Anfon at restr hir o bobl
> Er nad wyf bob amser yn cofio ei wneud fy hun, gwn am ddull o anfon neges
at
> restr faith o bobl, heb ddatgelu i bob un pwy yw'r lleill, a heb ddangos
> tudalennau o gyfeiriadau:
>
> Cyfeiriwch y copi cyntaf atoch chi eich hun. Mae 'na ail ffenestr dan y
> ffenestr "To:", efo'r enw "Cc:". Pwyswch ar yr eicon a'r "Cc:" ac mi
ddowch
> at sgrin lle gallwch lwytho enwau o'ch rhestr o "Contacts" i mewn i
ffenestr
> "To:", neu "Cc:" neu "Bcc:" Mae "Bcc" yn golygu "Blind carbon copy", ac
os
> rhowch yw enwau i gyd yn y ffenestr honno, ni fydd unrhyw un sy'n derbyn
> copi yn medru gweld pwy arall sydd wedi cael un.
>
> Fel 'dych chi'n gwybod, mae'n debyg, mae modd rhoi enw ar grwp o bobl, fel
> nad oes angen teipio pob enw yn y grwp bob tro 'dych chi'n anfon atyn nhw
i
> gyd, dim ond enw'r grwp. Dw i ddim yn digwydd gwybod beth yw effaith
gwneud
> hyn yn ffenestr "Bcc:", ond mae'n werth trio.
>
> Ann
|