Mae'n sbel ers i'r term yma gael ei drafod (aeth ar goll mewn negeseuon
am "routers" a "firewalls" wedyn), ond dyma'r darn sydd gen innau erbyn
hyn i'w gyfieithu:
"A North American concept for a discrete area which may be mapped or
viewed from one or more viewpoints which has inherent scenic qualities
and / or aesthetic values as determined by those who view it.
The immediate foreground of a viewshed often enjoys more consideration
than the far distance or background."
Dim ond Berwyn fentrodd i'r dw^r y tro dwetha, a chynnig "taenolwg" fel
poibilrwydd. Ond, a derbyn mai darn o dir sydd dan sylw, ydych chi'n
credu y byddai "golygdir" yn cyfateb yn weddol dda, i gyfleu y tir sydd o
fewn eich golwg o'r fan dan sylw?
|