Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg bod
yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol.
Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael ei
drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi,
e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o
dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y
gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau".
Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan
sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn lle
mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r lluosog:
book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking and
mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song writer
ond awdur caneuon.
Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r
cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan
ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn."
|