> Cyd-destun:
> "He noted that there were no automatic time outs on Windows NT."
>
> Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg MEU.
Yn y 'time out' Americanaidd (gemau pel-fasged er enghraifft)
mae'r chwarae yn stopio ac yna mae munud ar y cloc yn cyfri lawr
tan fod y chwarae yn ail-ddechrau.
Mae'r ystyr cyfrifiadurol yn cyfeirio at y syniad o amserydd yn cyfri
lawr neu fyny tan ei fod yn cyrraedd gwerth penodol.
> Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a
> chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am:
> "Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod heb
> ei defnyddio."
>
> A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy
> cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn
> cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol??
Fasen i ddim yn cyfeirio at 'ddiffodd'. Mae angen ychydig mwy
o gyd-destun i weld yn union pa fath o timeout mae hyn yn olygu.
Mae angen rhoi'r ystyr o 'cloc yn cyfri lawr' yn hytrach na 'amser
allan' sydd fel pebai rhywun yn mynd ar wyliau.
Fe gellir dweud 'amseru allan' sydd ddim yn gymraeg da iawn ond dyna'r
math o ystyr sydd angen ei gyfleu. Mae'n hawdd cyfieithu y term
timeout fel 'amser ar ben' neu rywbeth felly ond mae'n anodd rhoi
hynny mewn brawddeg sydd yn gwneud synnwyr.
|