Gofynnais i'r mab sy'n gweithio ym maes cyfrifiadureg beth oedd ystyr y
frawddeg ac mi ges i'r ateb hwn
"Mewn meddalwedd gynna chdi rhywbeth o'r enw threading.
http://searchvb.techtarget.com/sDefinition/0,,sid8_gci213139,00.html
Mae thread (neu broses) yn gyfres o betha i'r cyfrifadur neud, a mae
cyfrifiadur yn gallu rhedeg unrhyw faint o threads mewn un go (er go iawn
mae'n rhedeg darnau bach o bob un ar y tro). Er enghraift fe alli di ddeud
wrth y cyfrifiadur am chwarae cerdoriaeth tra ti'n sgwennu yn word.
Mae gan windows lot o threads syn gwneud yn siwr fod popeth yn mynd yn iawn.
Mae'r threads yma yn monitro be mae'r lleill yn neud Os ydi thread syn
rhedeg rhaglen yn crashio neu'n cymeryd gormod o amser, fe all windows weld
ei fod heb ddeud ei fod yn ok ers sbel a deud ei fod wedi timeio allan (si
cymraeg da!).
Os oes gen rhywbeth automatic time outs yna fydd o ddim yn checkio os ydi
rhywbeth di gorffen mewn da bryd a bydd yn canslo'r thread yn awtomatig."
Dw i ddim yn siwr a ydi hyn o gymorth neu'n creu mwy o ddryswch!
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 16 November 2004 15:25
To: [log in to unmask]
Subject: time out
Cyd-destun:
"He noted that there were no automatic time outs on Windows NT."
Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg MEU.
Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a
chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am:
"Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod heb
ei defnyddio."
A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy
cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn
cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol??
Diolch,
Ann
---
Incoming mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.797 / Virus Database: 541 - Release Date: 15/11/2004
|