(ffurflenni) alldro refeniw
Esboniad rhywbeth yn debyg i hyn glywes i rai blynyddoedd yn ôl....
Mae'r "alldro" yn cyfeirio at sut mae pethau wedi "troi allan" ar ddiwedd
blwyddyn ariannol, o'u cymharu fel rheol â'r rhagolygon pan oedd y gyllideb
yn cael ei phennu.
A bwrw bod gennych chi gynllun i wario £300 ar grynoddisgiau mewn blwyddyn,
mae pethau fel chwyddiant, gostyngiadau am brynu sawl un gyda'i gilydd, neu
sêls, yn gallu effeithio ar y cynllun, ac ar ddiwedd y flwyddyn rych chi'n
cyfrif eich gwariant a gweld mai dim ond £280 sydd wedi'i wario.
Byddai'ch cyfrifon yn cynnwys colofn ar gyfer y rhagolwg o wario £300, a
cholofn arall ar gyfer yr alldro o £280.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Muiris Mag
Ualghairg
Sent: 03 November 2004 00:51
To: David Bullock
Subject: revenue out turn
Gyfeillion
revenue out-turn (forms)
Help!
Muiris
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.788 / Virus Database: 533 - Release Date: 02/11/2004
|