Diolch yn fawr *iawn*, Catrin.
Dywedir "Ni bydd neb yn cynnau cannwyll a'i chuddio â llestr neu ei dodi dan
y gwely", ond mae'n amlwg bod Cymdeithas y Beibl wedi penderfynu gwneud
hynny. Daw'r adnod hwn i'r meddwl hefyd: "paid â gadael i'th law chwith
wybod beth y mae dy law dde yn ei wneud".
Copiaf eich neges at y swyddog yn y Llyfrgell Genedlaethol a gweld beth yw
ei ymateb - ac a ellid cael help y Llyfrgell i adfer y feriswn Cymraeg.
Cofion,
Ann
----- Original Message -----
From: "catrin.alun" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 06, 2004 10:42 PM
Subject: Re: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
> Dim ond un problem - dwi ddim yn gallu ffeindio cyfarwyddiadau Cymraeg!
>
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, November 06, 2004 8:58 AM
> Subject: Re: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
>
>
> Mae'n ddrwg gen i. Gan fod dau ohonoch wedi fy nghamddeall (un wedi rhoi
> gwybod imi'n uniongyrchol), mae'n amlwg na wnes i egluro fy hun yn iawn.
> Cyfeirio oeddwn at y wefan yn nheitl fy neges - concordans ar lein - a
> restrir dan Adnoddau Crefyddol ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol nid at
> wefan y Beibl Cymraeg ei hun.
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, November 05, 2004 11:38 PM
> Subject: Re: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
>
>
> > Dwi newydd lwyddo i fynd i'r wefan drwy'r ddolen roist ti.
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Friday, November 05, 2004 10:35 AM
> > Subject: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
> >
> >
> > > Cyd-ddigwyddiad - ynteu Rhagluniaeth?
> > > Yn yr un "post" a sylw David ynghylch http://www.beiblcymraeg.org/
daeth
> > > ymateb gan y Llyfrgell Genedlaethol ynghylch yr uchod. Beth amser yn
> ol,
> > > bum yn cyfieithu yn lansiad y wefan uchod, a oedd i'w chael trwy
safle'r
> > > Llyfrgell (er iddi gael ei chreu gan rywun o'r tu allan. Noddwyd y
> gwaith
> > > gan Gymdeithas y Beibl, os deallaf yn iawn). 'Roeddwn i'n ei
defnyddio
> o
> > > dro i dro a'i chymeradwyo i gyfieithwyr eraill.
> > >
> > > Dros flwyddyn yn ol, diflannodd y cysylltiad - mae'r enw'n dal ar
> safle'r
> > > Llyfrgell, ond does dim modd dilyn y cysylltiad. Holais flwyddyn yn
ol,
> > ac
> > > rwyf newydd holi eto. Mae'n ymddangos nad yw'r Llyfrgell yn medru
> > cysylltu
> > > a'r awdur mwyach, na chael mynediad i'r safle. Mae'n ymddangos nad
oes
> > neb
> > > yn gyfrifol am y gronfa mwyach. Mae'n ymddangos imi yn wastraff ac yn
> > > golled ofnadwy.
> > >
> > > Faint o ddefnydd oedd ar y safle cyn iddi ddiflannu? Faint o bobl
sydd
> > wedi
> > > chwilio amdani a chael eu siomi? Neu faint a fyddai wedi'i defnyddio
> > 'tasen
> > > nhw wedi gwybod amdani?
> > >
> > > Os oes gan unrhyw un sylwadau, naill ai ar gyfer y grwp, neu drwy fy
> > > nghyfeiriad personol, byddwn i'n falch o'u trosglwyddo nhw i'r
> Llyfrgell.
> > >
> > > Ann
> >
> >
>
>
>
|