Dim ond un problem - dwi ddim yn gallu ffeindio cyfarwyddiadau Cymraeg!
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 06, 2004 8:58 AM
Subject: Re: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
Mae'n ddrwg gen i. Gan fod dau ohonoch wedi fy nghamddeall (un wedi rhoi
gwybod imi'n uniongyrchol), mae'n amlwg na wnes i egluro fy hun yn iawn.
Cyfeirio oeddwn at y wefan yn nheitl fy neges - concordans ar lein - a
restrir dan Adnoddau Crefyddol ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol nid at
wefan y Beibl Cymraeg ei hun.
Ann
----- Original Message -----
From: "Geraint Løvgreen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 05, 2004 11:38 PM
Subject: Re: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
> Dwi newydd lwyddo i fynd i'r wefan drwy'r ddolen roist ti.
>
> ----- Original Message -----
> From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, November 05, 2004 10:35 AM
> Subject: Mynegair ar lein i'r Beibl Cymraeg Newydd
>
>
> > Cyd-ddigwyddiad - ynteu Rhagluniaeth?
> > Yn yr un "post" a sylw David ynghylch http://www.beiblcymraeg.org/ daeth
> > ymateb gan y Llyfrgell Genedlaethol ynghylch yr uchod. Beth amser yn
ol,
> > bum yn cyfieithu yn lansiad y wefan uchod, a oedd i'w chael trwy safle'r
> > Llyfrgell (er iddi gael ei chreu gan rywun o'r tu allan. Noddwyd y
gwaith
> > gan Gymdeithas y Beibl, os deallaf yn iawn). 'Roeddwn i'n ei defnyddio
o
> > dro i dro a'i chymeradwyo i gyfieithwyr eraill.
> >
> > Dros flwyddyn yn ol, diflannodd y cysylltiad - mae'r enw'n dal ar
safle'r
> > Llyfrgell, ond does dim modd dilyn y cysylltiad. Holais flwyddyn yn ol,
> ac
> > rwyf newydd holi eto. Mae'n ymddangos nad yw'r Llyfrgell yn medru
> cysylltu
> > a'r awdur mwyach, na chael mynediad i'r safle. Mae'n ymddangos nad oes
> neb
> > yn gyfrifol am y gronfa mwyach. Mae'n ymddangos imi yn wastraff ac yn
> > golled ofnadwy.
> >
> > Faint o ddefnydd oedd ar y safle cyn iddi ddiflannu? Faint o bobl sydd
> wedi
> > chwilio amdani a chael eu siomi? Neu faint a fyddai wedi'i defnyddio
> 'tasen
> > nhw wedi gwybod amdani?
> >
> > Os oes gan unrhyw un sylwadau, naill ai ar gyfer y grwp, neu drwy fy
> > nghyfeiriad personol, byddwn i'n falch o'u trosglwyddo nhw i'r
Llyfrgell.
> >
> > Ann
>
>
|