Dw i wedi dysgu tipyn heno, a maddeuwch imi, chwi Ladinwyr, os nad wyf wedi
deall y cyfan yn y diwedd, neu wedi cymryd amser maith i gyrraedd pen y
daith.
Wedi darllen cyfraniad Alwyn, es at GPC, a digon gwir mae ystyr anwytho
"rhesymegu a thynnu deddf gyffredinol oddiwrth enghreifftiau neiilltuol".
Ond yr ystyron Saesneg a roddir yw "infer, make an induction" - dim son am
"induct". Mae'r cofnod hefyd yn dweud "cfdds.diw. o'r Llad. inductio =
cyfansoddiad diweddar o'r Lladin 'inductio'.
Tybed, meddyliais, a oes term arall o fyd athroniaeth yn cyfateb i "deduce".
Gofynnais i Bruce - ddim yn gwybod. Gofynnais wedyn "pa air fyddai'n
cyfansoddiad diweddar o air Lladin fel 'deductio' (wn i ddim a oes y fath
air)?" "Diddwytho" meddai fo. Dyma droi at y tudalen priodol a dod o hyd i
"diddwytho" - rhesymu drwy gymhwyso'r egwyddor at achos arbennig. Saesneg
"to deduce, infer".
Felly, mae deduction ac induction yn ddau fath o resymu. Yn y cyntaf,
tybiwn, dw i'n dweud "Mae cathod i gyd yn gigysol, felly mae rhaid bod y
gath drws nesaf yn gigysol". Mae'r ail yn dweud "Mae pob cath dw i'n ei
hadnabod yn casau gwlychu, felly mae'n debyg bod cathod fel y cyfryw yn
casau gwlychu". [ Na, 'does arnaf ddim eisiau trafod a yw hyn yn gywir ai
peidio!]
Tybed, meddyliais, os mai "deduce" yw'r ferf sy'n cyd-fynd a "deduction", a
oes 'na air "induce" i gyd-fynd a'r "induction" 'ma?
Dw i'n gyfarwydd a'r gair "induce" sy'n golygu peri i rywbeth ddigwydd (e.e.
genedigaeth). O droi at Eiriadur yr Academi, ar wahan i'r ystyron cyffredin
ar gyfer "induce", mae "2. (a) (=cause) ..... 2.(b) El. &c.: anwytho. 3. (=
infer): casglu, occ. anwytho.
Wedi mynd at y Shorter Oxford, mae'n ymddangos bod "induct" ac "induce" yn
dod o'r un ferf Lladin, "inducere", sy'n ymwneud a'r syniad o "arwain". Er
hynny, mae'r gair "anwytho", yn ei gyd-destun trydanol a'i gyd-destun
athroniaethol, yn cyfateb i'r Saesneg "induce", nid "induct". Yr hyn sydd
wedi peri trafferth yw'r ffaith bod yr enw, yn achos y ddwy ferf, yr un
peth, sef "induction".
Efallai nad yw hyn yn fawr o help, ond 'rwyf innau'n ei gael yn ddiddorol.
Rhaid cyfadde hefyd, nad dyma'r tro cyntaf i air Cymraeg fagu ystyr newydd
yn ddamweiniol (cf. "alaw", nad yw, mae'n debyg, yn ymwneud a cherddoriaeth
o gwbl), ond yn bersonol, byddaf yn osgoi "anwytho", a defnyddio "sefydlu"
neu "ymsefydlu" [yn anffodus, fuaswn i ddim yn meddwl y gellid "cynefino"
rhywun arall - a oes modd defnyddio'r gair fel berf anghyflawn
(transitive)?]
Nos da .. dw i'n dechrau mwydro ...
Ann
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 15, 2004 9:20 PM
Subject: Re: INDUCTION
> Byddwn i'n dyfalu mai "bathiad dysgedig" ar sail y Lladin yw "anwytho", ac
> nid gair sydd wedi deillio'n organig o'r iaith honno ganrifoedd yn ôl.
>
> Tybed a edrychodd rhywun rywbryd ar "induction" a chofio bod "fructus" y
> Lladin wedi rhoi "ffrwyth" yn y Gymraeg, a meddwl wedyn y byddai "-duct-"
> Lladin yn cyfateb felly i "-dwyth-" yn y Gymraeg. Yr un un a fathodd y
> gair "dwythell" i olygu "duct" efallai?
>
> Beth bynnag, yr hyn sy'n drueni (i fi ta beth) yw bod gair oedd efallai yn
> ddefnyddiol i olygu "induction" ym myd trydan yn cael ei lyncu yn
> ddifeddwl wedyn i gyfateb i "induction" ym myd gwaith, a hynny er bod sawl
> dewis ar gael eisoes.
>
>
|