Diolch yn fawr iawn Dafydd a Berwyn. Mae braidd yn hwyr ac mae fy mhen yn
tori - sori troi!'- ond rwyf wedi penderfynu mai "galluogi gwefan i lefaru'r
(testun)" sy'n ffitio'r cyd-destun orau'r tro 'ma, cyd-destun, byddwn i'n
meddwl, lle mae'r ymgynghorwyr yn cymryd yn ganiataol ymadroddion na fydd yr
un mor gyfarwydd i gynghorywyr yn y naill iaith neu'r llall.
Llawer o ddiolch unwaith eto.
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 06, 2004 10:04 PM
Subject: Re: speech-enabling
> On Tue, Jul 06, 2004 at 07:53:43PM +0100, Berwyn Jones wrote:
> > Fyddai hi'n bosib dweud 'sy'n llefaru('r testun)' neu 'sy'n gwe-lefaru'?
Neu
> > os yw'n sôn yn bendol am wefan, 'gwefan lafar'?
>
> Mae angen cyfeirio at y broses 'enabling' rhywsut, ond mae'n golygu
> pethau gwahanol mewn meysydd gwahanol.
>
> h.y. 'speech-enabling software'
> meddalwedd sy'n gallu llefaru NEU adnabod llais e.e. arddywediad
>
> hefyd 'speech-enabling a website'
>
> galluogi gwefan i lefaru'r (testun)
>
> Ond dyw hyn ddim yn berffaith - mae angen cyfeirio at y ffaith fod y
> wefan (neu beth bynnag) yn cael ei addasu er mwyn hwyluso llefaru'r
> testun gan rywbeth arall (meddalwedd o fewn y porwr), ond nid y wefan
> ei hun sydd yn gwneud fel arfer.
>
> A mae 'speech-enabling a phone system' yn beth gwahanol eto -
> galluogi system ffon (neu ffon symudol) i ddeall gorchmynion llais.
>
>
|