Cyd-destun - rhaglen gyfrifiadurol.
Botymau "Yes", "Yes to All", "No", "No to All".
Cynigiais: Derbyn, Derbyn Pob Un, Gwrthod, Gwrthod PobUn
OND dywedir wrthyf rwan y gall y 'prompt' fod rhywbeth megis "Overwrite
files".
'Rwyf wedi bod yn defnyddio'r berf yn hytrach na'r gorchmynol hyd yn hyn
(unrhyw sylwadau?)
A fyddai rhywbeth fel "Gwneud Pob Un/ym Mhob Achos" yn gwneud y tro ym mhob
cyd-destun, tybed?
Beth alla i ei ddefnyddio ar gyfer y negyddol (heb fynd yn rhy hirwyntog)?
Help! Dw i'n dechrau drysu
Ann
|