Byddwn i'n tybio mai'r ffordd orau o ddatrys y broblem yw anwybyddu union
ffurf yr ymateb a rhoi 'Ie', 'Ie i bob un', 'Na' a 'Na i bob un' gan gymryd
bod gan y darllenydd ddigon o synnwyr i ddeall nad 'ie' a 'na' yw'r atebion
delfrydol bob tro.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 13, 2004 12:26 PM
Subject: Yes/No to All
> Cyd-destun - rhaglen gyfrifiadurol.
> Botymau "Yes", "Yes to All", "No", "No to All".
>
> Cynigiais: Derbyn, Derbyn Pob Un, Gwrthod, Gwrthod PobUn
>
> OND dywedir wrthyf rwan y gall y 'prompt' fod rhywbeth megis "Overwrite
> files".
> 'Rwyf wedi bod yn defnyddio'r berf yn hytrach na'r gorchmynol hyd yn hyn
> (unrhyw sylwadau?)
> A fyddai rhywbeth fel "Gwneud Pob Un/ym Mhob Achos" yn gwneud y tro ym
mhob
> cyd-destun, tybed?
> Beth alla i ei ddefnyddio ar gyfer y negyddol (heb fynd yn rhy hirwyntog)?
>
> Help! Dw i'n dechrau drysu
>
> Ann
|